Guardian Jobs
Chair of Council, BANGOR UNIVERSITY

How your CV stacks up
Upload your CV to see how well it fits this job role
?%
Cadeirydd y Cyngor, Prifysgol Bangor
Am y Brifysgol
Ers ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, a phwyslais cryf ar brofiad myfyrwyr. Heddiw mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y Brifysgol. Mae ganddi tua 1,700 o staff mewn deuddeg o Ysgolion Academaidd o fewn tri Choleg, wedi eu cefnogi gan nifer o Wasanaethau Proffesiynol.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o’i chymeriad dwyieithog nodedig, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal fel ieithoedd dysg, gwaith a chymuned. Saif y Brifysgol yn un o gadarnleoedd yr iaith, ac yn hyn o beth mae hi wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu dwyieithrwydd ym mhob agwedd ar ei gweithgareddau. Mae’r ymrwymiad hwn yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr a’r staff, yn cryfhau ein cysylltiad â’r cymunedau a wasanaethwn, ac yn adlewyrchu ein cred bod amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol yn ffynhonnell o ragoriaeth academaidd, arloesedd a chynhwysiant. Fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, rydym yn chwilio am arweinwyr a fydd yn hyrwyddo ac yn meithrin y nodwedd ddiffiniol hon o hunaniaeth a dyfodol y Brifysgol.
Mae’r Brifysgol wedi’i rhestru yn safle 30 yn y Deyrnas Unedig am effaith gymdeithasol ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf; mae hi ar y brig yng Nghymru ac yn safle 17 yn y Deyrnas Unedig ar restr University Compare 2027; yn ail yng Nghymru, yn safle 40 yn y Deyrnas Unedig ac yn safle 360 yn y byd ar restr TIME 2026 o Brifysgolion Gorau’r Byd; ymhlith y 50 uchaf yn y Deyrnas Unedig yn y Complete University Guide 2027; ac ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig ac yn safle 74 yn y byd am gynaliadwyedd yn y Times Higher Education (THE) Sustainability Impact Rankings 2026.
Reasons to use Rodeo
I’m in my final year doing Economics and I don’t know whether to apply for grad schemes now or do a masters first. What do you think?
Honest answer — it depends on where you want to end up. A lot of top grad schemes (Big 4, civil service, banking) don’t need a masters. Let’s look at the ones you’d be competitive for now, and we can decide if a masters actually adds anything.
Also worth knowing: most autumn 2026 applications are open now. Timing matters more than you think.
Start with a chat, not a search bar
Grad scheme, placement, apprenticeship? Not sure what you want yet — that's fine. Your agent talks it through with you and turns "I have no idea" into a shortlist.
Graduate Consultant — 2026 Scheme
Why you're a good match
StrongYour economics background and your summer at a regional bank line up with what PwC looks for on the consulting scheme. Applications close in four weeks.
See breakdownIt searches the market for you
Every day your agent scans the market matching roles against what actually matters to you, not just keywords on a CV.
Why you're a good match
You’ve got the grades and the economics background, and your bank internship is exactly the experience this scheme looks for. Apply soon — deadlines close within the month.
Experience fit
Your summer at the bank plus your econometrics coursework map directly to the day-one responsibilities on this scheme — client modelling, market briefings, and deal support.
Only hits
No noise. No "maybe this fits." Just roles with a clear explanation of why they're right — and where to focus when applying.
Yr Aelwyd
Bydd Mrs Marian Wyn Jones, Cadeirydd presennol y Cyngor, yn camu o’r neilltu ar 30 Tachwedd 2026, ac rydym ni nawr yn ceisio penodi ei holynydd i arwain y corff llywodraethu ar adeg hollbwysig i addysg uwch. Bydd y swyddogaeth bwysig hon yn darparu arweinyddiaeth strategol, llywodraethu cadarn a goruchwyliaeth effeithiol, a bydd y sawl a benodir yn gynghorydd dibynadwy a chyfaill beirniadol i’r Is-ganghellor.
Mae’r Brifysgol yn chwilio am Gadeirydd eithriadol a fydd yn arwain y Cyngor trwy gyfnod o drawsnewid. Ar adeg hollbwysig yn nhaith y Brifysgol, bydd gennych y weledigaeth a’r dylanwad angenrheidiol i lunio’r dyfodol, hyrwyddo rhagoriaeth, a sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni effaith barhaol.
Yr Ymgeisydd Delfrydol
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
- sgiliau arweinyddiaeth cryf, a hanes o ymdrin yn llwyddiannus â sefyllfaoedd cymhleth.
- brofiad o lywodraethu ar frig sefydliad mawr, ynghyd â chraffter ariannol, barn gadarn a sgiliau rhagorol o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
- dealltwriaeth o system wleidyddol Cymru a’i heffaith ar y system Addysg Uwch, yn ogystal â dealltwriaeth o’r sector a’i heriau cyfredol.
Mae’n dda bod gan yr ymgeisydd y gallu i fod yn llysgennad dylanwadol, gallu meithrin perthnasoedd ar draws cymunedau amrywiol ac ymdrin â’r byd addysg uwch sy’n esblygu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, gydag ymrwymiad cryf i lwyddiant myfyrwyr a staff y Brifysgol.


Get help with your application
Your very own career expert that helps elevate your application to the next level.
Aelod Annibynnol y Cyngor
Rydym hefyd yn awyddus i ddenu ceisiadau gan bobl a fyddai â diddordeb bod yn Aelod Annibynnol o’r Cyngor. Bydd Aelodau Annibynnol yn arweinwyr strategol profiadol, gydag arbenigedd mewn archwilio, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, eiddo, a/neu wyddoniaeth.
Sut i Wneud Cais
- Pecyn Ymgeiswyr – Cymraeg: https://www.minervasearch.com/current-opportunities/bangor/
- Pecyn Ymgeiswyr – Saesneg: https://www.minervasearch.com/current-opportunities/bangor/
Bydd ganddynt ddefnyddio cyfeiriad email bangor@minervasearch.com i anfon eu ceisiadau, ar ffurf CV a llythyr eglurhaol, dim hwyrach na 7 Hydref 2026.
Y Proces Penodi
Bydd Pwyllgor Penodi a gynullir gan y Cyngor o dan ofynion Ordinhad 2 yn ystyried pob cais. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad wyneb yn wyneb (sy’n debygol o fod ar ddechrau neu yng nghanol mis Tachwedd 2026) yn y cnawd ym Mhrifysgol Bangor.
Cyflogwr Cyfle Cyfartal
Mae’r Brifysgol yn gyflogwr cyfle cyfartal, ac yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan ymgeiswyr o ystod amrywiol o gefndiroedd. Mae ar y Brifysgol eisiau sicrhau bod y Cyngor yn adlewyrchu amrywiaeth cymuned y Brifysgol ac mae hi wedi ymrwymo i wella’r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar y Cyngor, cyfran yr aelodau annibyn
“It took my CV and asked me questions relevant to understanding what kind of jobs to suggest for me. Suggestions were almost perfect. Jobs were exactly what I’ve been looking for.”
Jessica, London
Skills
Location