Rodeo
Get started

Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Rheolwr Terminoleg - Cymraeg yn hanfodol

Wales
Posted about 18 hours ago
Sign up to applySee more jobs like this
Get notified of more jobs like this · No spam, ever

How your CV stacks up

1Upload CV
2Analyse CV
3Improve CV

Upload your CV to see how well it fits this job role

?%

Mae’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at waith yr Uned Ddatblygu i ddarparu cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.

Dyma’r uned sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyfieithu cyfan – a’r Llywodraeth yn ehangach – ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddo’r Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth.

Prif amcanion y swydd yw:

  • Cynnal ymchwil terminolegol a rhoi cyngor arbenigol ar dermau yn y Gymraeg, gan sicrhau y gwneir penderfyniadau gwydn o ansawdd uchel, yn unol â safonau ac egwyddorion cydnabyddedig y maes
  • Cynnal a chynorthwyo i ddatblygu adnoddau terminoleg blaenllaw’r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cronfa gyhoeddus TermCymru ac adnoddau terminoleg eraill BydTermCymru, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod â hygrededd uchel, ac yn bodloni gofynion y defnyddwyr
  • Hyrwyddo arferion safonol a datblygiad o ran terminoleg ac enwau lleoedd yn y Gwasanaeth Cyfieithu ac o fewn Llywodraeth Cymru’n ehangach.

Rhoddir hyfforddiant llawn ym meysydd gwaith terminoleg ac enwau lleoedd i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Terminoleg

  • Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i gynnal prosesau safoni terminoleg, trwy gyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion, ar gyfer dogfennau â phroffil neu risg uchel (gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol)
  • Darparu cyngor rhagweithiol ar derminoleg mewn dogfennau â phroffil neu risg uchel, neu rai sy’n cynnwys problemau terminoleg newydd/cymhleth, trwy gribo am dermau, cyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion
  • Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau ad hoc gan gyfieithwyr ac eraill
  • Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau brys gan Weinidogion
  • Paratoi cofnodion addas ar gyfer y gronfa dermau, a gwirio ansawdd allforiadau o’r gronfa
  • Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i ddatblygu canllawiau ac arweiniad ar agweddau penodol ar derminoleg a materion cysylltiedig
  • Cynorthwyo i gynnal ansawdd y penderfyniadau a’r argymhellion a wneir, gan gynnwys:
    • Sicrhau bod penderfyniadau ac argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac egwyddorion cydnabyddedig, a bod y rhesymeg yn cael ei hesbonio’n glir
    • Trafod yn ôl yr angen â rhanddeiliaid ac arbenigwyr mewnol ac allanol, gan gynnwys cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cyfieithu, arbenigwyr iaith/terminoleg, arbenigwyr cyfreithiol, ac arbenigwyr polisi/pwnc
    • Cadw cofnod o’r penderfyniadau, a’r ymchwil a’r drafodaeth sy’n sail iddynt, a sicrhau bod trywydd archwilio clir ar gael
    • Sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu cymeradwyo ar y lefelau priodol, yn enwedig pan fyddant yn wleidyddol sensitif neu’n ddadleuol.

Reasons to use Rodeo

I’m in my final year doing Economics and I don’t know whether to apply for grad schemes now or do a masters first. What do you think?

Honest answer — it depends on where you want to end up. A lot of top grad schemes (Big 4, civil service, banking) don’t need a masters. Let’s look at the ones you’d be competitive for now, and we can decide if a masters actually adds anything.

Also worth knowing: most autumn 2026 applications are open now. Timing matters more than you think.

Start with a chat, not a search bar

Grad scheme, placement, apprenticeship? Not sure what you want yet — that's fine. Your agent talks it through with you and turns "I have no idea" into a shortlist.

P

Graduate Consultant — 2026 Scheme

PwC·London, UK
£35,000/yr

Why you're a good match

Strong

Your economics background and your summer at a regional bank line up with what PwC looks for on the consulting scheme. Applications close in four weeks.

See breakdown
Save jobNot relevant
View details

It searches the market for you

Every day your agent scans the market matching roles against what actually matters to you, not just keywords on a CV.

Why you're a good match

You’ve got the grades and the economics background, and your bank internship is exactly the experience this scheme looks for. Apply soon — deadlines close within the month.

See breakdown
Strong

Experience fit

Your summer at the bank plus your econometrics coursework map directly to the day-one responsibilities on this scheme — client modelling, market briefings, and deal support.

See breakdown
Strong

Only hits

No noise. No "maybe this fits." Just roles with a clear explanation of why they're right — and where to focus when applying.

Enwau lleoedd ac arwyddion ffyrdd

  • Ymchwilio a drafftio cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd i’r Gwasanaeth Cyfieithu a Llywodraeth Cymru yn ehangach, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig
  • Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg ar waith Panel Safoni Enwau Lleoedd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
  • Ymchwilio a drafftio cyngor ar destun Cymraeg arwyddion ffyrdd, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig.

Systemau ac adnoddau

Get help with your application

Your very own career expert that helps elevate your application to the next level.

Get help applying for this job
  • Cynnal prosiectau i sicrhau bod cofnodion TermCymru’n gyfredol, o ansawdd uchel, ac yn gyson
  • Sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd addas i adnoddau a datblygiadau terminolegol y Gwasanaeth Cyfieithu ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  • Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i sicrhau bod yr adnoddau terminoleg yn addas i’r diben, yn cefnogi’r cyfieithwyr i’r graddau mwyaf posibl, ac ar gael yn gyhoeddus
  • Cynnal cyflwyniadau a darparu hyfforddiant ar ddefnyddio’r pecynnau a’r systemau a gynhelir gan yr Uned Ddatblygu, ee y gronfa dermau, TermCymru, BydTermCymru
  • Cyfathrebu â sefydliadau allanol (ee Yr Uned Technoleg Iaith ym Mhrifysgol Bangor, Geiriadur Prifysgol Cymru, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol eraill), er mwyn rhannu a dysgu am arferion da wrth ym meysydd terminoleg ac enwau lleoedd
  • Meithrin arbenigedd er mwyn cefnogi a chyngori ar ddefnydd addas o offer technolegol ym maes rheoli terminoleg, gan gynnwys systemau a phrosesau priodol ar gyfer cribo termau, trafod a safoni termau gan sicrhau trywydd archwilio manwl, cynnal cronfeydd termau, a chyhoeddi a lledaenu termau.

Cyffredinol

  • Cydweithio â'r Swyddog Datblygu ar faterion a thasgau pan fo’r swyddog hwnnw yn cefnogi’r gwaith terminoleg, gan ddirprwyo yn ôl y gofyn
  • Cynorthwyo’r Arweinydd Terminoleg i gynllunio rhaglen waith a phrosiectau unigol, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
  • Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â
Trusted by 25,000+ job seekers

“It took my CV and asked me questions relevant to understanding what kind of jobs to suggest for me. Suggestions were almost perfect. Jobs were exactly what I’ve been looking for.”

Jessica, London

Get help applying for this job

Location

Wales, United Kingdom

Sign up to applySee more jobs like this