Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol

How your CV stacks up
Upload your CV to see how well it fits this job role
?%
Pwrpas swyddi uwch-gyfieithwyr yw cynorthwyo Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i Gweinidogion, a chefnogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â gofynion ieithyddol statudol. Maent yn swyddi sy’n gwbl ganolog wrth i’r Llywodraeth gyfathrebu negeseuon allweddol â’r cyhoedd.
Bydd pob uwch-gyfieithydd yn meddu ar y sgiliau iaith a’r crebwyll gwleidyddol a sefydliadol i gyfieithu, heb oruchwyliaeth, rhwng y Saesneg a’r Gymraeg. Ar ôl meithrin rhywfaint o brofiad yn y swydd, disgwylir i uwch-gyfieithwyr adolygu cyfieithiadau testun, a hyfforddi cyfieithwyr llai profiadol. Gall hyn hefyd olygu cyfrifoldedau rheoli llinell.
Bydd rhai uwch-gyfieithwyr yn canolbwyntio ar gyfieithu testunau cyffredinol, tra bydd eraill yn arbenigo mewn cyfieithu deddfwriaeth. Gan ddibynnu ar anghenion busnes y Gwasanaeth Cyfieithu, a chryfderau’r unigolyn, disgwylir i uwch-gyfieithwyr gyfrannu at amryw agweddau ar waith y proffesiwn, ee datblygu a chyflwyno technoleg arbenigol, caffael gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, prosiectau safoni terminoleg.
Cyfieithu ysgrifenedig
Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg. Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol.
Sicrhau ansawdd
Sicrhau bod eich gwaith cyfieithu yn gywir, yn briodol ac yn cydymffurfio bob amser â chywair, arddull a therminoleg safonol y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer y math o destun dan sylw.
Reasons to use Rodeo
I’m in my final year doing Economics and I don’t know whether to apply for grad schemes now or do a masters first. What do you think?
Honest answer — it depends on where you want to end up. A lot of top grad schemes (Big 4, civil service, banking) don’t need a masters. Let’s look at the ones you’d be competitive for now, and we can decide if a masters actually adds anything.
Also worth knowing: most autumn 2026 applications are open now. Timing matters more than you think.
Start with a chat, not a search bar
Grad scheme, placement, apprenticeship? Not sure what you want yet — that's fine. Your agent talks it through with you and turns "I have no idea" into a shortlist.
Graduate Consultant — 2026 Scheme
Why you're a good match
StrongYour economics background and your summer at a regional bank line up with what PwC looks for on the consulting scheme. Applications close in four weeks.
See breakdownIt searches the market for you
Every day your agent scans the market matching roles against what actually matters to you, not just keywords on a CV.
Why you're a good match
You’ve got the grades and the economics background, and your bank internship is exactly the experience this scheme looks for. Apply soon — deadlines close within the month.
Experience fit
Your summer at the bank plus your econometrics coursework map directly to the day-one responsibilities on this scheme — client modelling, market briefings, and deal support.
Only hits
No noise. No "maybe this fits." Just roles with a clear explanation of why they're right — and where to focus when applying.
Sicrhau ansawdd gwaith cyfieithwyr mewnol eraill yn ôl y galw, a chyfrannu at broses monitro ansawdd gwaith y cyflenwyr allanol a ddefnyddir dan gontract gan y Gwasanaeth Cyfieithu.
Gwasanaeth i gwsmeriaid
Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu.
Bod yn atebol am eich gwaith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, a chymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
Bod yn ymwybodol o gynulleidfaoedd targed ein cyfieithiadau, ac ystyried eu hanghenion hwythau wrth ddarparu cyfieithiadau ar ran Llywodraeth Cymru.
Arddull a therminoleg
Ymgyfarwyddo â’r prif egwyddorion ar gyfer safoni termau, a dilyn trefniadau gosodedig y Gwasanaeth ar gyfer paratoi, safoni a rhannu termau drwy gyfrwng TermCymru.
Cydweithio â chyfieithwyr ac eraill i sicrhau cysondeb arddull y Gwasanaeth Cyfieithu a chynorthwyo i ddatblygu’r canllawiau arddull a gyhoeddir ar BydTermCymru.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Defnyddio systemau craidd y Llywodraeth, ynghyd â systemau a meddalwedd arbenigol y Gwasanaeth Cyfieithu, i’w llawn botensial o ddydd i ddydd. Mae’r systemau arbenigol yn cynnwys cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, system llif gwaith, system rheoli dogfennau, meddalwedd drafftio deddfwriaeth a meddalwedd fynegeio.


Get help with your application
Your very own career expert that helps elevate your application to the next level.
Helpu i ddatblygu’r defnydd o offer TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) arbenigol a chadw ar drywydd y datblygiadau technolegol diweddaraf sy’n hyrwyddo prosesau cyfieithu.
Adolygu, ôl-olygu a phrawfddarllen testunau
Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rheoli a datblygu cyfieithwyr llai profiadol
Ar ôl cyfnod o ymgynefino â’r swydd, ysgwyddo’r cyfrifoldeb o reoli, arwain a datblygu cyfieithwyr llai profiadol.
Gwirio a chynghori
Darparu gwasanaeth gwirio testun ar gyfer swyddogion sy’n drafftio testunau yn Gymraeg.
Rhoi cyngor a chanllawiau clir a safonol i swyddogion ar faterion gramadeg, arddull a therminoleg.
Cyffredinol
Cynorthwyo’r Arweinwyr Timau i ddyrannu gwaith, gan ddirprwyo ar eu rhan yn ôl y gofyn.
Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr.
Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais arweinydd tîm neu reolwyr eraill y Gwasanaeth Cyfieithu
“It took my CV and asked me questions relevant to understanding what kind of jobs to suggest for me. Suggestions were almost perfect. Jobs were exactly what I’ve been looking for.”
Jessica, London
Location