Rodeo
ResourcesPartnersSign in

Capita Personal Independence Payment (PIP)

Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg)

Wales
£39.5k – £44.6k/yr
Posted 2 months ago
Sign up to applySee more jobs like this

How your CV stacks up

1Upload CV
2Analyse CV
3Improve CV

Upload your CV to see how well it fits this job role

?%

Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg)

Company Description Darganfyddwch fath newydd o yrfa ym maes gofal iechyd fel arbenigwr swyddogaethol. Ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn chwilio am newid? Os ydych chi’n nyrs (RMN, RNLD, RGN), therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg, gallech ddefnyddio eich sgiliau mewn ffordd wahanol fel arbenigwr swyddogaethol. Yng Ngwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd Capita (HAAS), rydym yn darparu asesiadau diduedd a chynhwysfawr ar gyfer hawlwyr budd-daliadau anabledd y Llywodraeth (Taliad Annibyniaeth Personol – PIP), dros y ffôn, drwy alwad fideo neu wyneb yn wyneb, naill ai mewn canolfannau asesu neu yng nghartrefi’r hawlwyr. Job Description Mae ein harbenigwyr swyddogaethol yn ysgrifennu adroddiadau sy’n helpu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch iechyd a gofal unigolion. Efallai eich bod yn nyrs ar hyn o bryd ac yn awyddus i symud i ffwrdd o ddarparu gofal uniongyrchol – mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau asesu a defnyddio eich gwybodaeth broffesiynol i wneud argymhellion clinigol pwysig. Neu efallai eich bod yn therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg sydd am ddysgu gwerthuso sefyllfaoedd mewn ffordd a lleoliad gwahanol. Rydym yn chwilio am unigolion tosturiol sydd â’r profiad i ddeall cyflwr iechyd neu anabledd hawlwyr a’r effaith ar eu bywydau bob dydd. Mae’r rôl hon yn wahanol i broffesiynau gofal iechyd eraill, a dyna pam rydym yn cymryd hyfforddiant a datblygiad o ddifrif. Byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr gyda amser wedi’i neilltuo ar gyfer dysgu a datblygu personol. Os ydych chi’n chwilio am newid, gan gynnwys oriau gwaith mwy rheolaidd, cyflog cystadleuol ac yn barod i ehangu eich sgiliau a’ch profiad, gallai hon fod y rôl i chi. Eich Prif Gyfrifoldebau Cynnal adolygiadau cychwynnol, asesiadau ar bapur, wyneb yn wyneb, drwy fideo neu dros y ffôn i werthuso sut mae cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar fywyd bob dydd hawlwyr Arsylwi a chofnodi gallu unigolyn i gyflawni gweithgareddau Dadansoddi a dehongli gwybodaeth glinigol a thystiolaeth ategol Creu un adroddiad cynhwysfawr (3,000–4,000 gair) fesul hawlydd, hyd at uchafswm o dri y dydd Sicrhau bod digon o fanylder, tystiolaeth a chyfiawnhad i gefnogi’r DWP wrth wneud penderfyniadau Datblygu eich gwybodaeth glinigol a dysgu am gyflyrau iechyd llai cyfarwydd Mae hon yn rôl hybrid, gyda disgwyliad y byddwch yn gweithio gartref a hefyd yn cael eich neilltuo i weithio o’ch canolfan asesu agosaf ar sail rota i gynnal asesiadau wyneb yn wyneb Qualifications Rydym yn chwilio am unigolion sydd â: O leiaf blwyddyn o brofiad ôl‑gofrestru fel nyrs (RMN, RNLD, RGN), therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg Cofrestriad llawn gyda’r corff rheoleiddio perthnasol yn y DU (NMC, HCPC neu debyg), heb gyfyngiadau nac amodau, a PIN dilys Sgiliau arsylwi a chyfathrebu rhagorol, gan allu gwrando, empathïo a holi’n fanwl Y gallu i weithio’n gyflym, cynhyrchu adroddiadau’n brydlon a chyrraedd targedau Profiad cadarn o ddefnyddio TG a Microsoft Office, gan gynnwys mynediad o bell at systemau Trwydded yrru ddilys gyfredol neu fynediad at ddull cludo i fynychu’r ganolfan asesu agosaf Mae sgiliau Cymraeg (llafar a/neu ysgrifenedig) yn ddymunol er mwyn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn effeithiol Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau fetio Safon Diogelwch Personél Sylfaenol y Llywodraeth yn llwyddiannus. Dyma’r safon gydnabyddedig ar gyfer sgrinio cyn‑cyflogaeth unigolion sydd â mynediad at asedau’r Llywodraeth. Diffinnir y rôl hon fel gweithgaredd rheoledig yn ymwneud â phlant neu oedolion bregus o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006, ac mae wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Byddwch yn cael gwiriad troseddol uwch, a fydd yn dangos collfarnau a dreuliwyd a heb eu treulio. Additional Information Byddwch wedi’ch contractio i weithio 7.5 awr y dydd, 37.5 awr yr wythnos (llawn amser). Gellir cytuno ar eich oriau gwaith penodol gyda’ch rheolwr llinell ar ôl hyfforddiant. Bydd patrymau gwaith rhwng 8.00yb a 8.00yh. Am Capita HAAS Dyfarnwyd dau gontract i Capita i ddarparu asesiadau’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (HAAS) yn y Canolbarth a Chymru ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer yr Adran Cymunedau (DfC). Mae HAAS yn wasanaeth newydd sy’n dod â gwasanaethau asesu presennol ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd o dan un darparwr mewn pob rhanbarth daearyddol, gan wneud mynediad at gymorth yn symlach ac yn haws i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Bydd Capita yn darparu asesiadau ar gyfer PIP, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol (UC), ynghyd â nifer o fudd-daliadau arbenigol gan gynnwys Lwfans Byw i’r Anabl i Blant (DLA) ac asesiadau Veterans UK. Mae Capita wedi bod yn darparu asesiadau PIP yn y Canolbarth a Chymru ers 2013, ac yng Ngogledd Iwerddon ers 2016. Beth sydd ynddo i chi? Cyflog cychwynnol cystadleuol o £39,500, yn codi i £40,500 ar ôl cael cymeradwyaeth gan y DWP Cymhwyster ar gyfer cynllun bonws yn seiliedig ar ansawdd a pherfformiad 25 diwrnod o wyliau (yn codi i 27 ar ôl 5 mlynedd) gyda’r opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol Ad-dalu ffi gofrestru proffesiynol flynyddol a chefnogaeth ad-ddilysu Cyfle i gymryd diwrnod â thâl i wirfoddoli gyda’n partneriaid elusennol neu achos o’ch dewis Pensiwn cyfraniad cyfatebol y cwmni, yswiriant bywyd, cynllun beicio i’r gwaith, 15 wythnos o absenoldeb mamolaeth , mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir â thâl llawn, a thâl tadolaeth o bythefnos Mynediad at fuddion gostyngol ar gyfer manwerthu, iechyd a lles, teithio a thechnoleg Cynllun gwobrwyo argymell ffrind Mynediad at ap Headspace i chi a hyd at 5 aelod o’r teulu neu ffrindiau Mynediad at Rwydweithiau Gweithwyr sy’n cynrychioli pob agwedd ar amrywiaeth ac yn hyrwyddo amgylchedd gwaith cynhwysol Bydd gennych gyfle i ddilyn eich llwybr gyrfa eich hun o fewn Capita, gan ymuno â rhwydwaith o weithwyr profiadol, arloesol ac ymroddedig ar draws sawl disgyblaeth a sector. Beth i’w wneud nesaf Dewiswch “Mae gen i Ddiddordeb” i gwblhau ein cais byr er mwyn i ni gael gwybod mwy amdanoch. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn ystyried pob ymgeisydd cymwys waeth beth fo hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, statws anabledd neu unrhyw nodwedd warchodedig arall. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn sicrhau bod nifer deg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol yn cael cynnig cyfweliad. Am ragor o wybodaeth neu i drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â: [email protected] neu 0300 303 8544

Compensation: GBP 39500 - GBP 44550 - monthly

Reasons to use Rodeo

I’m in my final year doing Economics and I don’t know whether to apply for grad schemes now or do a masters first. What do you think?

Honest answer — it depends on where you want to end up. A lot of top grad schemes (Big 4, civil service, banking) don’t need a masters. Let’s look at the ones you’d be competitive for now, and we can decide if a masters actually adds anything.

Also worth knowing: most autumn 2026 applications are open now. Timing matters more than you think.

Start with a chat, not a search bar

Grad scheme, placement, apprenticeship? Not sure what you want yet — that's fine. Your agent talks it through with you and turns "I have no idea" into a shortlist.

P

Graduate Consultant — 2026 Scheme

PwC·London, UK
£35,000/yr

Why you're a good match

Strong

Your economics background and your summer at a regional bank line up with what PwC looks for on the consulting scheme. Applications close in four weeks.

See breakdown
Save jobNot relevant
View details

It searches the market for you

Every day your agent scans the market matching roles against what actually matters to you, not just keywords on a CV.

Why you're a good match

You’ve got the grades and the economics background, and your bank internship is exactly the experience this scheme looks for. Apply soon — deadlines close within the month.

See breakdown
Strong

Experience fit

Your summer at the bank plus your econometrics coursework map directly to the day-one responsibilities on this scheme — client modelling, market briefings, and deal support.

See breakdown
Strong

Only hits

No noise. No "maybe this fits." Just roles with a clear explanation of why they're right — and where to focus when applying.

Get help with your application

Your very own career expert that helps elevate your application to the next level.

Get help applying for this job
Trusted by 25,000+ job seekers

“It took my CV and asked me questions relevant to understanding what kind of jobs to suggest for me. Suggestions were almost perfect. Jobs were exactly what I’ve been looking for.”

Jessica, London

Get help applying for this job

Skills

Clinical assessment
Report writing
Healthcare
Nursing
Occupational therapy
Physiotherapy
Paramedic skills
Data analysis
Microsoft Office
Communication
Empathy
Time management
Clinical evidence interpretation
Welsh language

Location

Wales, United Kingdom

Sign up to applySee more jobs like this