Rodeo
ResourcesPartnersSign in

Libera | Media & Marketing Company

Uwch Swyddog Marchnata

Cardiff
£30k – £34k/yr
Posted 1 day ago
Sign up to applySee more jobs like this

How your CV stacks up

1Upload CV
2Analyse CV
3Improve CV

Upload your CV to see how well it fits this job role

?%

Trosolwg o Libera

Mae Libera yn gwmni marchnata a chyfryngau sy’n arbenigo mewn strategaeth a chynnwys digidol ar gyfer teledu a diwylliant. Ein prif waith yw cynhyrchu cynnwys, rhedeg hysbysebion digidol a chynnal hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol. Mae ein cleientiaid yn cynnwys BBC Studios, BBC Cymru Wales, S4C, Mentera, Amgueddfa Cymru, Tinopolis, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a llawer mwy o sefydliadau blaenllaw Cymru. Ry’n ni’n edrych am swyddog lefel uwch profiadol i ymuno â’r tîm.

Mae’r tîm ar hyn o bryd yn cynnwys Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyfarwyddwr Creadigol, Uwch Swyddog Cynnwys, Uwch Swyddog Marchnata a Chrëwr Cynnwys Graddedig.

Libera hefyd yw trefnwyr Social Media Conference Cymru. Bydd SMC Cymru yn dychwelyd yn 2026 gyda 400+ o fynychwyr. Mae hi bellach yn un o brif ddigwyddiadau’r diwydiant marchnata yng Nghymru ac yn un o'r cynadleddau cyfryngau cymdeithasol mwyaf yn y DU.

Am y rôl

Ry’n ni’n edrych am uwch swyddog marchnata profiadol i ymuno gyda thîm Libera.

Sgiliau a phrofiad angenrheidiol:

  • O leiaf 5 mlynedd o brofiad, sgiliau a gwybodaeth mewn rôl cyfryngau cymdeithasol, marchnata digidol, hysbysebion taladwy neu strategaeth dadigidol.
  • Bod yn ‘self starter’ gydag angerdd gwirioneddol am y maes a brwdfrydedd dros ddysgu a meithrin sgiliau newydd
  • Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg
  • Profiad o arwain prosiectau a chyfarfodydd ac yn gyfforddus yn cyflwyno canlyniadau, canfyddiadau ac argymhellion yn glir
  • Greddf olygyddol gref ac yn gyfforddus yn egluro’r rhesymeg tu ôl i benderfyniadau golygyddol a strategol
  • Profiad o greu cynnwys digidol

Reasons to use Rodeo

I’m in my final year doing Economics and I don’t know whether to apply for grad schemes now or do a masters first. What do you think?

Honest answer — it depends on where you want to end up. A lot of top grad schemes (Big 4, civil service, banking) don’t need a masters. Let’s look at the ones you’d be competitive for now, and we can decide if a masters actually adds anything.

Also worth knowing: most autumn 2026 applications are open now. Timing matters more than you think.

Start with a chat, not a search bar

Grad scheme, placement, apprenticeship? Not sure what you want yet — that's fine. Your agent talks it through with you and turns "I have no idea" into a shortlist.

P

Graduate Consultant — 2026 Scheme

PwC·London, UK
£35,000/yr

Why you're a good match

Strong

Your economics background and your summer at a regional bank line up with what PwC looks for on the consulting scheme. Applications close in four weeks.

See breakdown
Save jobNot relevant
View details

It searches the market for you

Every day your agent scans the market matching roles against what actually matters to you, not just keywords on a CV.

Why you're a good match

You’ve got the grades and the economics background, and your bank internship is exactly the experience this scheme looks for. Apply soon — deadlines close within the month.

See breakdown
Strong

Experience fit

Your summer at the bank plus your econometrics coursework map directly to the day-one responsibilities on this scheme — client modelling, market briefings, and deal support.

See breakdown
Strong

Only hits

No noise. No "maybe this fits." Just roles with a clear explanation of why they're right — and where to focus when applying.

Sgiliau delfrydol:

  • Profiad o redeg hysbysebion digidol gyda phlatfformau megis Meta Ads Manager
  • Profiad o anfon ebyst marchnata gan ddefnyddio technegau marchnata pwrpasol (ar feddalwedd fel Mailchimp neu Beehiiv)
  • Gwybodaeth dechnegol gref am hysbysebion digidol, metrigau perfformiad a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata

Lleoliad:

Hyblyg, ond disgwylir presenoldeb 2 ddiwrnod yr wythnos yn un o’n mannau cydweithio (Ar hyn o bryd: Tramshed Tech, Caerdydd neu Ganolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin)

Beth fyddi di’n ei wneud?

  • Ry’n ni’n gwmni newydd (sefydlwyd yn 2023) sy’n tyfu ac yn dîm bach gweithgar a chyfeillgar. Wrth fod yn rhan o’r tîm yn ystod dyddiau cynnar y cwmni, byddi di’n cael y cyfle i ennill profiad gyda thasgau amrywiol a chyfrannu at waith pwysig a chyffrous.
  • Cyfrannu at lwyddiant Social Media Conference Cymru gan weithio ar elfennau o’r digwyddiad ac unrhyw ddigwyddiadau neu raglenni hyfforddiant eraill.
  • Cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata cyfryngau cymdeithasol creadigol o’r cam syniadu i’r cam gwerthuso / adrodd yn ôl gan fod yn brif bwynt cyswllt i rai cleientiaid, gan reoli’r holl waith, amserlenni, cyllidebau, disgwyliadau a pherthynas gyda’r cleient.
  • Arwain strategaethau hysbysebu taladwy ar draws llwyfannau digidol i gleientiaid, gan adeiladau ymgyrchoedd, goruchwylio optimeiddio, profi creadigol, rheoli cyllidebau, gwella ROI drwy ddefnyddio data ac adrodd yn ôl ar berfformiad.
  • Cyfrannu at brosiectau strategaeth ddigidol i gleientiaid.
  • Arwain ac adeiladu sesiynau hyfforddiant i gleientiaid (gan gynnwys cynllunio, trefnu a chyflwyno).
  • Arwain ar brosiectau cynhyrchu cynnwys gan gyfrannu syniadau, trefnu a chynllunio'r ffilmio a chymryd cyfrifoldeb dros amserlen olygu a chyfleu i'r cleient
  • Creu cynnwys ar gyfer brandiau gwahanol wrth ffilmio a golygu cynnwys.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros brosesau rheoli ansawdd ar waith rhai cleientiaid.
  • Gweithio’n agos gyda’r tîm yn fewnol a phartneriaid allanol gan gyfrannu yn greadiol fel rhan o’r tîm.
  • Unrhyw waith rhesymol arall.

Get help with your application

Your very own career expert that helps elevate your application to the next level.

Get help applying for this job

Be’ allwn ni gynnig?

  • Cytundeb llawn amser, 5 diwrnod (35.5 awr) yr wythnos
  • Cyfnod: 12 mis
  • Cyflog o £30,000 - £34,000 yn ddibynnol ar brofiad
  • Cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid a chleientiaid mawr cyffrous ar brosiectau arbennig - mae ein cleientiaid diweddar yn cynnwys BBC Cymru, BBC Studios, S4C (a Hansh), Mentera, Y Sioe Frenhinol, Plaid Cymru a mwy
  • Cynllun yswiriant iechyd lle mae modd hawlio rhai costau yn ôl am rai gwasanaethau iechyd (deintydd, optegydd a mwy) a mynediad 24/7 i GP arlein neu dros y ffôn
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol (+ gwyliau banc), sy’n cynyddu yn ôl blynyddoedd o wasanaeth
  • Gorffen gwaith am 3:00pm ar ddyddiau Gwener
  • Cyfraniadau pensiwn

I ymgeisio

Dyddiad Cau: 16:00, 28/07/2026

Anfonwch eich portffolio/enghreifftiau cynnwys, proffil LinkedIn (neu CV os nad ydych ar LinkedIn) ac ebost yn esbonio pam bo' gennych chi ddiddordeb at HR@liberaagency.com

Trusted by 25,000+ job seekers

“It took my CV and asked me questions relevant to understanding what kind of jobs to suggest for me. Suggestions were almost perfect. Jobs were exactly what I’ve been looking for.”

Jessica, London

Get help applying for this job

Skills

Social Media
Digital Marketing
Paid Advertising
Digital Strategy
Project Management
Content Creation
Communication
Data Analysis
Client Management
Creative Campaigns
Training
Editing
Budget Management
Performance Metrics
Self Starter
Team Collaboration

Location

Cardiff, Wales, United Kingdom

Sign up to applySee more jobs like this